Y diweddar Cyril Smith AS
Mae Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cydnabod bod rhaid i’r blaid ateb “cwestiynau difrifol” ynglyn â phwy oedd yn gwybod am yr honniadau o gamdrin plant yn erbyn y cyn aelod seneddol Cyril Smith.

Yn ôl Tim Farron, ymchwiliad gan yr heddlu fuasai’r dull gorau o ymchwilio i’r honniadau yn erbyn y gwleidydd, fu farw yn 2010 yn 82 oed.

Honnir bod Sir Cyril Smith wedi treisio bechgyn yng nghartrefi preswyl Knowle View a Cambridge House yn Rochdale a bod aelodau o’r Democratiaid Rhddfrydol a’r Blaid Ryddfrydol cyn hynny, yn gwybod am yr honniadau gan eu hanwybyddu.

Roedd yr Arglwydd Steele yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol rhwng 1976 a 1988 ac mae wedi dweud y bydd yn barod i gyd-weithio efo unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu.

“Dwi’n cytuno y dylid cynnal ymchwiliad newydd a dwi’n fwy na bodlon i gael fy holi, gan nad oeddwn i’n gwybod am ddim ar ôl cyhoeddi’r adroddiad yn 1979 am ymchwiliadau’r heddlu pan oedd Cyril Smith yn gynghorydd Llafur yn y chwedegau,” meddai wrth bapur y Daily Telegraph.

“Ddaeth yr un gwyn, na’r un si am ei gam ymddwyn honnedig fel AS i’n sylw ni ac a dweud y gwir daeth y straeon yn wybyddus dim ond ar ô lei farwolaeth,” ychwanegodd.