Mae’r cwest i farwolaeth 96 o gefnogwyr Lerpwl fu farw yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield wedi clywed gan deulu capten y tîm, Steven Gerrard.
Bu farw ei gefnder, Jon-Paul Gilhooley ar Ebrill 15, 1989 yn 10 oed.
Clywodd llys y crwner yn Warrington gan fam Jon-Paul, Jacqueline Gilhooley, a ddywedodd y byddai ei mab yn “falch iawn o Steven”.
Roedd Steven Gerrard yn wyth oed pan gafodd ei gefnder ei ladd yn stadiwm Sheffield Wednesday yn ystod gornest yng Nghwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.
Roedd gan Jon-Paul frawd hŷn, Ronnie.
Datganiad
Cafodd datganiad Jacqueline Gilhooley ei ddarllen gan gefndryd Jon-Paul, Paula Kadiri a Donna Ridland.
Dywedon nhw fod Jon-Paul yn aml yn teithio i gemau Lerpwl gyda chriw o gefnogwyr mewn bws mini.
“Ro’n i’n gwybod cyn 3.30yh fod Jon-Paul wedi mynd. Ro’n i’n gwybod nad oedd e’n dod yn ôl”, meddai Jacqueline.
“Wrth edrych yn ôl a chofio pa mor lwcus o’n i i gael Jon-Paul, dydw i’n difaru dim.
“Cafodd bywyd Jon-Paul ei gymryd oddi arno yn 10 oed.
“I’r byd, roedd Jon-Paul yn gefnogwr pêl-droed ond i ni, fe oedd ein byd ni.”
Mae’r teuluoedd yn parhau i roi datganiadau am eu perthnasau fu farw yn y trychineb, ac mae’r cwest bellach wedi’i ohirio tan yfory.