Bu farw’r nofelydd Sue Townsend, y wraig oedd fwya’ adnabyddus am ysgrifennu cyfres o lyfrau Adrian Mole.

Fe gadarnhaodd ffrind iddi fod yr awdures 68 mlwydd oed wedi marw ddoe, a hynny wedi cyfnod byr o salwch.

Fe ddaeth Sue Townsend yn enw byd-eang yn dilyn cyhoeddi ei nofel gynta’ am yr arddegyn, The Secret Diary Of Adrian Mole, aged 13 and Three Quarters, yn 1982.

Roedd wedi bod yn diodde’ o glefyd y siwgwr ers blynyddoedd, ac roedd y clefyd hwnnw wedi gwneud iddi fynd yn ddall.