Mae Gweinidog Ynni Llywodraeth Prydain, Owen Paterson wedi cyhoeddi y bydd y cynllun i ddifa moch daear yn ne-orllewin Lloegr yn parhau eleni.
Ond fe ddywedodd nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i ymestyn y cynllun i rannau eraill o Loegr.
Yn dilyn arolwg diweddar o’r cynllun difa, dywedodd adroddiad nad oes modd gweithredu’r cynllun mewn modd diogel.
Ychwanegodd nad oes dim digon o foch daear wedi cael eu difa.
Mae disgwyl i newidiadau gael eu cyflwyno i’r cynllun yng ngorllewin Swydd Gaerloyw a gorllewin Gwlad yr Haf er mwyn gwella effeithlonrwydd a diogelwch y cynllun difa.
Bydd y cynllun yn cael ei adolygu ymhellach y flwyddyn nesaf.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Llywodraeth Prydain fod canlyniadau’r cynllun brechu yng Nghymru’n addawol.
Beirniadodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies gynllun difa Llywodraeth Prydain yr wythnos diwethaf, gan ddweud bod y cynllun yn dangos anallu Defra i ymdrin â’r sefyllfa.
Ychwanegodd fod y cynllun brechu yn Sir Benfro wedi bod yn llwyddiannus.
Daeth y cynllun difa i ben yng Nghymru yn 2011, gan newid i’r cynllun brechu.