Mae bron i hanner yr Albanwyr fu’n cymryd rhan mewn arolwg yn credu nad oes sail i honiadau George Osborne na fyddai modd i’r Alban barhau i ddefnyddio’r bunt os byddai’n dod yn wlad annibynnol.

Mae hyn o’i gymharu â 40% sy’n credu fod y Canghellor yn driw i’w eiriau.

Mewn arolwg gan YouGov ar ran papur newydd The Times, gofynnwyd a ydy Albanwyr yn credu fod George Osborne yn bygwth torri cysylltiadau’r Alban a’r bunt er mwyn perswadio pobol i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth. Roedd 45% yn credu bod hyn yn wir a 15% ddim yn siwr.

Cyhoeddodd George Osborne y mis diwethaf na fyddai’n cytuno i’r Alban gael defnyddio’r bunt os fyddai’r wlad yn pleidleisio o blaid annibyniaeth mewn refferendwm ar 18 Medi.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi condemnio sylwadau George Osborne gan ddweud y byddai’n parhau i ddadlau’r achos tros undeb ariannol rhwng yr Alban a gweddill gwledydd Prydain, a bod hynny er lles pobol Prydain i gyd.

Yn ôl llefarydd ar ran Ysgrifennydd Cyllid Yr Alban, John Swinney: “Rydym yn croesawu’r canlyniadau yma sy’n dangos nad yw pobol yn fodlon derbyn ymdrechion y Canghellor i fwlio a dychryn pobl yr Alban.”