Fe fydd heddluoedd Cymru a Lloegr yn colli bron i 30,000 o swyddi o ganlyniad i doriadau Llywodraeth San Steffan, yn ôl penaethiaid yr heddlu.

Fe aeth llythyr preifat gan Gymdeithas Penaethiaid yr Heddlu at weinidogion y llywodraeth i law papur newydd y Guardian ddoe.

Mae’r llythyr yn dweud eu bod nhw’n disgwyl y bydd swyddi 12,000 o heddlu rheng flaen a 16,000 o staff yn cael eu torri dros y pedair blynedd nesaf.

Rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, yr wythnos diwethaf bod gostyngiad yng nghyflogau swyddogion yr heddlu yn “anorfod”.

Mae tua 224,000 o bobol wedi eu cyflogi gan y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys 143,000 o heddweision a 101,000 o staff eraill.

Mae Cymdeithas Penaethiaid yr Heddlu yn rhagweld toriadau o tua 12% i nifer y staff dros gyfnod o bedair blynedd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru eisoes wedi dweud eu bod nhw’n wynebu colli tua 120 o heddweision. Mae Heddlu De Cymru yn wynebu torri 114 o heddweision a 167 o staff.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud y gallai 300 o swyddi fynd, ac mae undebau sy’n cynrychioli gweithwyr Heddlu Gwent wedi dweud fod 350 o swyddi yn y fantol yno.

Mae amcangyfrif Cymdeithas Penaethiaid yr Heddlu yn cynnwys toriadau pendant sydd wedi eu cyhoeddi gan heddluoedd, yn ogystal ag amcangyfrif ar gyfer heddluoedd eraill.

Fe fydd cyllidebau’r heddluoedd yn cael eu torri 20% dros y pedair blynedd nesaf, ond fe fydd effaith hynny yn dibynnu ar ba mor ddibynnol yw’r heddluoedd ar arian y llywodraeth.

Mae yna bryder y bydd ardaloedd dinesig, tlawd, yn cael eu taro caletaf gan y toriadau, am mai nhw sydd fwyaf dibynnol ar arian o gyllideb Llywodraeth San Steffan.