Mae dwy fenyw a ddioddefodd ymosodiadau rhywiol dan law y gyrrwr tacsi, John Worboys, wedi ennill eu hachos i wneud cais am iawndal gan Heddlu Llundain.

Rhwng 2002 a 2008, fe ymosododd John Worboys yn rhywiol ar dros 100 o ferched, gan ddefnyddio cyffuriau ac alcohol i ddrysu ei ddioddefwyr. Ddoe, fe ddyfarnodd Mr Ustus Green yn yr Uchel Lys yn Llundain y gallai dwy o’r dioddefwyr, ymhlith y rhai cynta’ i gwyno am y gyrrwr tacsi, wneud cais am iawndal gan y Met.

Mae hynny, meddai, oherwydd fod yr heddlu wedi methu yn ei ymchwiliadau i gwynion y mercher.

Roedd y ddwy fenyw – sy’n cael ei nabod yn ôl llythrennau cynta’ eu henwau’n unig  fel DSD ac NBV – wedi dwyn eu hachos dan Erthygl 3 o’r Ddeddf Hawliau Dynol, sy’n ymwneud â thriniaeth sarhaus a dienaid.

Mae DSD yn honni ei bod wedi diodde’ o iselder yn dilyn y modd y cafodd ei thrin gan swyddogion Heddlu Llundain yn ystod yr ymchwiliad yn 2003, tra bod NBV yn dweud iddi ddiodde’ loes difrifol, euogrwydd a chyflwr PTSD o ganlyniad i’r modd y cafodd hithau ei thrin yn ystod 2007.