Lee Rigby
Fe fydd y ddau ddyn a lofruddiodd y milwr Lee Rigby yn cael eu dedfrydu yn yr Old Bailey heddiw.

Roedd Michael Adebolajo, 29, a Michael Adebowale, 22, wedi taro’r milwr gyda’u car cyn ymosod arno gyda chyllyll ger barics Woolwich yn ne ddwyrain Llundain ar 22 Mai’r llynedd.

Fe allai’r ddau wynebu dedfrydau o garchar am oes heb obaith am barôl ar ôl i lys apêl ddyfarnu fis diwethaf y gallai barnwyr yn y DU ganiatáu dedfrydau o’r fath.