Y Prif Weinidog, David Cameron
Yr unig ffordd ymlaen i Brydain yw ymladd yn erbyn “gelynion mentergarwch” trwy dorri trethi a biwrocratiaeth a hyrwyddo masnach, yn ôl y Prif Weinidog David Cameron.
Mewn araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghaerdydd, ategodd eiriau’r Canghellor George Osborne ddoe gan addo cyllideb a fyddai’n canolbwyntio ar greu amodau ar gyfer twf economaidd.
Gan gyhuddo’r blaid Lafur o fygu mentergarwch ers 1997, dywedodd David Cameron fod “trethi a rheoleiddio” yn dal Prydain yn ôl.
“Fe ddywedodd rhywun fel jôc wrtha i’r diwrnod o’r blaen mai’r diwydiant sydd wedi tyfu fwyaf ym Mhrydain dros y ddegawd ddiwethaf yw’r bobl sy’n ysgrifennu’r rheolau,” meddai.
“Ond nid jôc yw hyn o gwbl.
“Mae’n rhaid i bob rheoleiddiwr, pob swyddog, pob biwrocrat mewn llywodraeth, ddeall na allwn ni fforddio parhau i lwytho costau ar fusnesau, oherwydd allan ni ddim cymryd dim mwy.
“Felly fe alla i gyhoeddi heddiw ein bod ni’n taro’n ôl yn erbyn gelynion mentergarwch.”
Dywedodd y byddai’r llywodraeth yn gweithredu’n gadarnhaol yn ogystal:
“Mae llywodraeth sydd o blaid menter yn llywodraeth weithgar sy’n defnyddio ei grym i agor cyfleoedd newydd i fusnesau,” meddai.
“Tra bydd cytundebau i’w hennill, swyddi i’w creu, marchnadoedd i’w hamddiffyn – fe fyddaf i yno.”
Addawodd hefyd y byddai’n cadw “llygad barcud” ar fanciau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cyflawni ymrwymiadau benthyg i fusnesau bach.
‘Achub bywydau’
Fe wnaeth David Cameron hefyd amddiffyn penderfyniad y llywodraeth i eithrio’r gyllideb Datblygu Rhyngwladol rhag toriadau.
“Dw i’n gwybod bod gwarchod y gyllideb cymorth rhyngwladol yn benderfyniad dadleuol,” meddai.
“Ond meddyliwch beth mae hyn yn ei olygu.
“Mewn pedair blynedd fe fydd y wlad yma wedi brechu mwy o blant tlotaf y byd nag sydd yna o bobl yn Lloegr.
“Fe fyddwn wedi rhoi dŵr yfed diogel o fewn cyrraedd mwy o dlodion y byd nag sydd yna o bobl yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon gyda’i gilydd.
“Oherwydd yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud, fe fydd mamau a fyddai fel arall wedi dioddef marwolaethau poenus wrth roi genedigaeth yn byw i fagu eu babanod.
“Gyda’ch arian chi, rydyn ni’n achub bywydau – a dylai pawb yn y wlad yma ymfalchïo’n fawr yn hynny.”