Iain Duncan Smith
Nid diffyg swyddi yw’r prif rwystr i ddatrys problemau diweithdra, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith.
Mewn araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghaerdydd, addawodd y bydd Llywodraeth Prydain yn sicrhau ei bod hi’n talu’n well i weithio na bod ar fudd-daliadau.
“Wrth gwrs fod angen swyddi arnon ni – a dyna pam fod y Llywodraeth yma mor ddi-edifar o blaid busnes,” meddai.
“Ond y ffaith yw fod tua hanner miliwn o swyddi gwag yn yr economi ar hyn o bryd.
“Nid diffyg swyddi yw’r broblem, ond y methiant i gysylltu’r di-waith â’r swyddi sydd yna.
“Dros y 13 mlynedd diwethaf fe fu cynnydd o 2.5 miliwn yn y nifer o bobl mewn gwaith. Ac eto mae gennym tua phum miliwn o bobl ar fudd-daliadau allan-o-waith heddiw.
“Felly pwy gymerodd yr holl swyddi newydd. Aeth dros eu hanner i bobl o wledydd tramor. Nid dadl ynghylch mewnfudo yw hon – ond cwestiwn syml o gyflenwad a galw.
“Sy’n dangos gwacter geiriau Brown am swyddi Prydain i weithwyr Prydain.”
Diwygio budd-daliadau
Wrth gyfiawnhau cynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio’r system fudd-daliadau, meddai:
“Fe fyddwn ni’n sicrhau ei bod hi’n talu mwy i fod mewn gwaith nag i eistedd ar fudd-daliadau.
“Ac oherwydd hynny, fe allwn ni ddweud: os oes gwaith y gellwch chi ei wneud, fe fyddwn ni’n disgwyl i chi ei wneud – neu dim mwy o fudd-daliadau.
“Dau hanner yr hafaliad yw: tegwch i’r rhai sy’n chwilio am waith, tegwch i’r trethdalwr.”