Mae banc HSBC wedi gwadu sibrydion eu bod nhw’n bwriadu gadael Prydain.

Dywedodd llefarydd ar ran y banc sydd â’i bencadlys yn Llundain ers 19 mlynedd nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud i symud – ond rhybuddiodd fod “angen gwarchod safle cystadleuol Prydain”.

Roedd yn ymateb i stori ym mhapur newydd y Sunday Telegraph heddiw fod buddsoddwr mawr yn y banc, na chafodd ei enwi, wedi cael gwybod eu bod nhw’n “fwy na thebygol” o symud.

Roedd y buddsoddwr wedi clywed “dadleuon cryf iawn” o fewn y banc dros symud i Hong Kong.

Wrth wadu’r sibrydion, meddai’r llefarydd ar gan HSBC:

“Mae Llundain mewn safle delfrydol fel canolfan ariannol ryngwladol ac rydym wedi ei gwneud hi’n glir y byddai’n well gennym aros yma.

“Fodd bynnag, gofynnir inni’n rheolaidd gan fuddsoddwyr sefydliadol ynghylch costau bod â’n pencadlys yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n amlwg fod angen gwarchod safle cystadleuol y Ddinas.”

Hong Kong

Cafodd HSBC (Hong Kong & Shanghai Banking Corporation) ei sefydlu yn 1885 yn Hong Kong, a symudodd ei bencadlys i Lundain yn 1992 ar ôl prynu Banc y Midland. Bob tair blynedd ers hynny, mae’r banc wedi bod yn asesu ei leoliad er mwyn sicrhau mai Llundain sydd fwyaf synhwyrol o safbwynt ariannol a strategol.

Fe fyddai colli’r pencadlys o Lundain yn ergyd ddifrifol i’r Llywodraeth gan eu bod nhw’n dibynnu ar adfywiad economaidd sy’n cael ei arwain gan y sector preifat.