Y llifogydd yn Berkshire
Fe fydd cynlluniau dadleuol i gael gwared a swyddi yn Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael eu trafod yr wythnos hon a hynny er gwaetha sicrhad gan y Prif Weinidog na fyddai swyddi’n diflannu yn ystod y llifogydd presennol, yn ôl undebau.

Dywed undeb y GMB bod cyfarfod wedi cael ei drefnu ar gyfer dydd Iau lle maen nhw’n credu y bydd amserlen yn cael ei drafod ar gyfer bwrw mlaen gyda chynlluniau i ddiswyddo 1,700 o staff yr asiantaeth.

Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd y byddai unrhyw ddiswyddiadau yn cael eu gohirio nes ei bod wedi delio gydag effaith y llifogydd. Mae David Cameron wedi ategu hynny wrth iddo ymweld â’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio waethaf gan y stormydd.

Ond yn ol y GMB mae’n amlwg y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwrw mlaen gyda’r diswyddiadau unwaith fydd y gwaith wedi’i gwblhau o glirio’r difrod wedi’r llifogydd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: “Yr hyn sydd wrth wraidd yr argyfwng diweddar yw blynyddoedd o doriadau gan lywodraeth sydd wedi torri cyllidebau i lefelau anghynaladwy.”

Heddiw fe gyhoeddodd David Cameron y byddai’n ymweld â phob ardal yn y wlad sydd wedi cael ei heffeithio gan y llifogydd “er mwyn ceisio dysgu gwersi.”

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi bod yn amddiffyn y modd mae’r Llywodraeth wedi delio gyda’r argyfwng, tra’n cyhoeddi y bydd cymorth ariannol o £10 miliwn ar gael i fusnesau sydd wedi cael ei heffeithio gan y llifogydd.