Pwmp petrol
Fe roddodd Prif Weinidog Prydain awgrym y byddan nhw’n gweithredu yn y Gyllideb i leddfu ychydig ar y cynnydd mewn pris petrol.

Wrth i bris galwyn o betrol di-blwm godi tros £1.40 y litr mewn un garej yn ne-ddwyrain Lloegr, fe ddywedodd David Cameron wrth gylchgrawn Golwg ei fod yn cydymdeimlo gyda theuluoedd a busnesau sy’n diodde’.

Ac mae ymgyrchwyr prisiau tanwydd wedi rhybuddio bod y cynnydd diweddar yn y pris yn achosi trafferthion mawr.

Deall, meddai Cameron

“Dw i’n deall yn llwyr, pan mae’n £1.30 y litr am betrol, mae hynny’n taro teuluoedd, mae’n taro busnesau bach, nifer o fusnesau sy’n gwario lot ar betrol er mwyn gwneud eu gwaith,” meddai David Cameron.

Er nad oedd yn fodlon rhoi addewid y byddai’r Canghellor yn torri’r dreth ar betrol yn y Gyllideb ar 23 Mawrth, fe gadarnhaodd awgrym George Osborne y gallai wneud hynny.

“R’yn ni yn edrych ar ffyrdd o rannu’r boen rhwng y Llywodraeth – sydd yn cael rhywfaint o refeniw ychwanegol pan mae prisiau olew yn codi – a’r modurwr,” meddai David Cameron.

Argyfwng, meddai ymgyrchwyr

Mae’r mudiad ymgyrchu Fair Fuel UK yn dweud bod y cynnydd prisiau bellach yn argyfwng.

“Beth mae hyn yn ei wneud i’r economi? Beth mae hyn yn ei wneud i bobol? Beth mae hyn yn ei wneud i fusnesau?” meddai eu llefarydd, Peter Carroll. “Fe fyddan nhw’n cael eu chwalu ganddo.”