Canghellor y Trysorlys, George Osborne
Fe fydd y gyllideb ar Fawrth 23 yn cynnwys cyfres o fesurau i hybu twf yn yr economi, cyhoeddodd y Canghellor George Osborne mewn araith yng Nghaerdydd heddiw.

“Mae’r Gyllideb am fod yn un diedifar o blaid twf, o blaid menter, ac o blaid uchelgais,” meddai yng nghynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr Cymreig yng Ngerddi Sophia.

“Fe fydd yn edrych ar yr oedi mewn cynllunio, y rheoliadau newydd, y biwrocratiaeth a’r costau sy’n dal busnes yn ôl ac yn rhwystro swyddi rhag cael eu creu.”

Dywedodd hefyd y bydd o leiaf 10 o ‘Ardaloedd Menter’ yn cael eu cyflwyno yn Lloegr, fel y rhai yr oedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, wedi eu cyhoeddi ar gyfer Cymru.

Ychwanegodd ei fod yn awyddus i weld “adfywiad mewn cynhyrchu”, gan gyhuddo ei ragflaenwyr o ddibynnu’n ormodol ar wasanaethau ariannol.

“Er mor bwysig y gall gwasanaethau ariannol fod, allwn ni ddim rhoi ein holl fydd ar Ddinas Llundain fel y gwnaeth Llafur,” meddai.

“Mae arnon ni angen i rannau eraill o Brydain, a sectorau eraill o’n heconomi, dyfu a llwyddo. Oni fyddai’n beth da petai Prydain yn gwneud pethau eto?”

Wrth ymateb i gwynion fod y llywodraeth yn torri gormod ar wario ar draul hyrwyddo twf, mynnodd fod Prydain eisoes yn elwa o’i bolisïau.

“Mae’n polisi trethiannol ni’n galluogi Banc Lloegr sy’n annibynnol i gadw cyfraddau llog yn is nag y bydden nhw fel arall,” meddai.

“Heddiw, mae gan Brydain ddiffyg cyllidebol mwy na’r hyn sydd gan Sbaen a Phortiwgal – ond fe all ein busnesau a’n teuluoedd fenthyg ar gyfraddau llog tebyg i’r hyn ydyn nhw yn yr Almaen a Ffrainc.”

Ceiniog yn llai o dreth ar betrol?

Awgrymodd y Canghellor Geogre Osborne hefyd y bydd y gallai ddiddymu ceiniog o gynnydd yn y dreth sydd i fod i ddod i rym y mis nesaf.

Dywedodd ei fod wedi ‘clywed’ protestiadau gan fodurwyr yn cael eu ‘gwasgu’ gan y costau cynyddol.

“Dw i’n gwybod sut y mae’r codiadau mewn prisiau olew’n taro teuluoedd ym Mhrydain,” meddai.

“Mae gennym un arall o godiadau ymlaen-llaw’r Blaid Lafur mewn treth petrol ym mis Ebrill – un geiniog yn uwch na chwyddiant.

“Pan mae’n costio £1.30 am litr o betrol, £80 i lenwi tanc car teuluol, dw i’n gwybod bod pobl yn teimlo wedi eu gwasgu.”

Daeth sylwadau George Osborne wrth i un o’i gyd-weinidogion yn y Llywodraeth rybuddio y gallai’r helyntion yn Libya a’r Dwyrain Canol yrru pris petrol dros £2 y litr.