Mae miloedd o gartrefi ar hyd Afon Tafwys wedi cael rhybudd i baratoi am “lifogydd sylweddol”  wrth i nifer y rhybuddion llifogydd difrifol yn ne Lloegr gynyddu i 16.

O’r 16 rhybudd, mae 14 yn ymwneud ag afon Tafwys yn Sir Rhydychen a Surrey, ac mae dau rybudd yn parhau yng Ngwlad yr Haf.

Mae lefel Afon Tafwys yn uchel iawn ar hyn o bryd ac yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd mae disgwyl i’r lefel barhau i godi yn ystod y dydd.