Mae dynes wedi’i charcharu am bum mlynedd ar ôl iddi ymosod ar ferch arall gyda gwydr.

Roedd Leanne Bloomfield, 29, wedi gwadu defnyddio darn miniog o wydr er mwyn creu archoll yng ngwddw Natalie Walsh, 22 oedd yn ymestyn o’i gwddw i’w gên.

Ond roedd rheithgor y mis diwetha’ wedi cael y fam i ddau o blant yn euog o achosi anaf bwriadol yn Cafe De Paris yn y West End, Llundain, yn Chwefror 2013.

Heddiw, yn Llys y Goron Southwark, Llundain, fe gafodd Leanne Bloomfield ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar, wedi i’r Barnwr Peter Susman QC ddweud wrthi: “Mae’n dal yn aneglur i mi pam fod eich ymosodiad mor dreisgar.”