Senedd San Steffan
Bydd Cymru yn colli 10 Aelod Seneddol, Lloegr yn colli 31, yr Alban yn colli saith a Gogledd Iwerddon yn colli dau o ganlyniad i newidiadau a gyhoeddwyd heddiw.

Mae torri nifer yr Aelodau Seneddol yn rhan o gynllun i dorri nifer pob sedd yng Nghymru i tua’r un maint. O ganlyniad i’r newid bydd nifer yr ASau ar draws Prydain yn disgyn o 650 i 600.

Mae etholaethau Cymru ymysg y lleiaf ym Mhrydain felly bydd chwarter yr Aelodau Seneddol yn cael mynd, gan gwtogi’r nifer o 40 i 30.

Dros yr 18 mis nesaf fe fydd y Comisiwn Ffiniau yn ail-lunio bron i bob etholaeth ym Mhrydain. Mae yna bryderon y bydd yn arwain at gyfuno ardaloedd sydd heb gysylltiad hanesyddol â’i gilydd.

Ymysg y newidiadau sy’n cael eu crybwyll ar gyfer Cymru mae uno Ynys Môn â Bangor mewn un etholaeth, a thaflu etholaeth Arfon i mewn â gweddill Dwyfor Meirionydd.

Fe fydd rhai o ynysoedd yr Alban yn cael aros yn etholaethau llai.

Bydd y newidiadau yn poeni Aelodau Seneddol sydd ddim yn gwybod a fydd eu hetholaethau yn newid yn llwyr neu yn diflannu yn gyfan gwbl.

Mae’r Comisiwn Ffiniau wedi dweud na fydd yr un sedd yn croesi ffiniau gwledydd na ffiniau rhanbarthol o fewn Lloegr.

Fe fydd mapiau dros dro o’r seddi newydd yn cael eu cyhoeddi yn yr Hydref, cyn i’r mapiau terfynol gael eu datgelu yn 2013.