Amanda Knox yn rhydd wedi'r achos yn 2011 (PA)
Mae Amanda Knox yn dweud ei bod hi “wedi dychryn a’i thristau” ar ôl i lys yn yr Eidal ei dedfrydu i 28 mlynedd o garchar am lofruddio’r fyfyrwraig o Loegr, Meredith Kercher.

Mae’r Americanes ifanc wedi dweud y bydd hi’n apelio yn erbyn y dyfarniad unwaith eto – roedd un apêl wedi llwyddo, ond fe benderfynodd y llys ddoe o blaid ail sefydlu’r dyfarniad gwreiddiol a chynyddu’r gosb.

Dywedodd Amanda Knox, sydd wedi bod gartref yn yr Unol Daleithiau ers 2011, na fyddai hi’n fodlon dychwelyd i’r carchar yn yr Eidal ac y byddai’n  ymladd unrhyw ymdrech i’w gyrru yno trwy broses estraddodi.

“Fe fydd yn rhaid iddyn nhw fy nal i’n a fy llusgo i’n ôl, yn cicio ac yn sgrechian, i garchar nad ydw i’n haeddu bod ynddo, meddai.

Ond mae teulu Meredith Kercher wedi croesawu’r dyfarniad gan ddweud bod cyfiawnder wedi’i wneud ar ôl blynyddoedd o achosion llys.

Y cefndir

Cafwyd hyd i Meredith Kercher, 21 oed, o dde Llundain, yn farw yn y fflat roedd yn ei rannu gydag Amanda Knox yn Perugia yn yr Eidal yn 2007. Roedd ei gwddw wedi ei thorri.

Cafodd dyn arall, Rudy Guede o’r Traeth Ifori, ei gyhuddo o’i llofruddio mewn achos ar wahân a’i ddedfrydu i 16 mlynedd yn y carchar.

Mewn gwrandawiad yn Firenze ddoe y cafodd Amanda Knox ei dedfrydu i 28 mlynedd a chwe mis o garchar a’i chyn gariad Raffaele Sollecito i 25 mlynedd – sy’n fwy na’r dyfarniad gwreiddiol.

Roedd y ddau wedi cael eu rhyddhau ar apêl yn 2011, ddwy flynedd ar ôl i’r llys gwreiddiol eu cael yn euog.