Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn Llundain, Danny Alexander, wedi cyhoeddi cynllun i leihau’r dreth ar danwydd 5c mewn cymunedau ac ynysoedd anghysbell.

Wrth siarad yng nghynhadledd gwanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol, dywedodd Danny Alexander y byddai’r cynllun o gymorth i deuluoedd sydd wedi eu taro’n galed gan yr argyfwng economaidd.

Mae pobol mewn ardaloedd anghysbell fel arfer yn defnyddio mwy o betrol ac yn talu pris uwch amdano na phobol sy’n byw mewn trefi a dinasoedd.

Ond dyw’r cynllun ddim yn debygol o elwa Cymru, er gwaetha’r ffaith bod sawl cymuned anghysbell a gwledig yn y wlad.

“Fe fyddwn ni’n cyflwyno cais ffurfiol i’r Comisiwn Ewropeaidd am ddisgownt 5c i gymunedau yn Ucheldiroedd yr Alban, Ynysoedd y Gogledd, Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Clud ac Ynysoedd Syllan.

“Mae’r rhain yn llefydd sydd yn teimlo pwysau prisiau tanwydd uchel yn ragor nag unrhyw ran arall o Wledydd Prydain.

“Mae’r pwysau yn anferth ar deuluoedd yn yr ardaloedd rheini, ac rydw i wrth fy modd cael bod yn rhan o Lywodraeth sydd, am y tro cyntaf erioed, yn mynd i ddarparu cymorth iddyn nhw.”

Mae etholaeth Danny Alexander yn ucheldiroedd yr Alban.