Mae cyn newyddiadurwr wedi cyfaddef heddiw ei fod wedi hacio ffonau pan oedd yn gweithio i’r Sunday Mirror a News of the World.

Dywedodd Daniel Evans wrth yr achos hacio ffonau yn yr Old Bailey, ei fod yn gysylltiedig â hacio yn y Sunday Mirror am flwyddyn a hanner o 2003 ond bod yr arfer wedi bod yn mynd ymlaen ymhell cyn hynny, meddai.

Cafodd gais i ymuno a’r News of the World yn 2005, meddai wrth y llys a hynny oherwydd ei sgiliau hacio ffonau.

Cafodd gynnig y swydd gan y golygydd ar y pryd Andy Coulson ar ôl i Daniel Evans ddweud wrtho y gallai gael “llawer o straeon ecsgliwsif, yn rhad.”

Dywedodd wrth y llys ei fod yn hacio ffonau y rhan fwyaf o’r amser pan oedd yn gweithio gyda’r NOTW a’i fod wedi clustfeinio ar negeseuon ffôn mwy na 1,000 o weithiau.

Mae Evans eisoes wedi cyfaddef cynllwynio i hacio ffonau yn y Sunday Mirror rhwng Chwefror 2003 a Ionawr 2005 a’r un drosedd yn y News of the World rhwng Ebrill 2004 a Mehefin 2010.

Roedd hefyd wedi pledio’n euog i gynllwynio i gamymddygiad mewn swydd gyhoeddus rhwng Ionawr 2008 a Mehefin 2010 a gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy roi datganiad ffug yn yr Uchel Lys.

Jude Law: ‘Llawer gormod o wybodaeth’

Bu’r actor Jude Law hefyd yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn yr Old Bailey heddiw.

Fe wnaeth yr actor ddarganfod heddiw bod aelod o’i deulu wedi gwerthu straeon amdano i’r News of the World.

Dywedodd ei fod wedi clywed yn yr Hydref bod y berthynas wedi rhoi gwybodaeth i’r papur newydd ond doedd ganddo ddim syniad eu bod nhw wedi derbyn arian am wneud hynny.

Ychwanegodd bod gan y wasg lawer gormod o wybodaeth am ei fywyd preifat  a disgrifiodd sut y byddai ffotograffwyr yn ei ddilyn drwy’r amser.

Mae Coulson, 46, o Charing, Caint; cyn brif weithredwr News International Rebekah Brooks, 45, o Churchill, Sir Rhydychen, a chyn olygydd reolwr NotW Stuart Kuttner, 73, o Woodford Green, Essex, yn gwadu cynllwynio i hacio ffonau rhwng 2000 a 2006.