Yr Arglwydd Rennard
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg wedi dweud na fyddai’n “briodol” i’r Arglwydd Rennard ddychwelyd i Dy’r Arglwyddi cyn iddo ymddiheuro i ferched sy’n honni ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol.

Mae’r Arglwydd Rennard yn gwadu’r honiadau yn ei erbyn ac wedi gwrthod ymddiheuro ar ôl i ymchwiliad ddod i’r casgliad na ellir profi honiadau’r merched y tu hwnt i amheuaeth.

Roedd yr Arglwydd Rennard wedi colli chwip y blaid yn dilyn yr honiadau.

Wrth iddo ddychwelyd i Dy’r Arglwyddi heddiw mae ei ymgynghorydd cyfreithiol wedi bygwth camau cyfreithiol os na fydd y chwip yn cael ei adfer.

Ond mae Nick Clegg wedi ei rybuddio na fydd yn cael y chwip yn ôl nes ei fod yn ymddiheuro.