Mae plaid Ukip wedi diarddel dros dro y cynghorydd a gyhoeddodd mewn llythyr i’r wasg mai cosb am ganiatau priosadau hoyw oedd y tywydd stormus a’r llifogydd diweddar yng ngwledydd Prydain.

Roedd David Silvester wedi honni mewn llythyr at yr Henley Herald fod Cymru a Lloegr wedi cael ei chwipio â stormydd byth oddi ar i lywodraeth David Cameron basio deddf yn cyfreithloni priodasau rhwng pobol o’r un rhyw.

Roedd hynny, yn ôl David Silvester, yn mynd yn gwbwl groes i’r Efengyl.

Fe gafodd ei ddiarddel o’r blaid ar ôl gwrthod gorchymyn i beidio â gwneud mwy o gyfweliadau ar y pwnc ac ar ei gredoau.

Mae Nigel Farage, arweinydd Ukip, wedi lansio ymgyrch i waredu ei blaid o bobol sy’n arddel daliadau “eithafol, cas neu wallgo”.