Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi talu teyrnged i ymgeisydd etholiadau Ewrop, Del Singh, a fu farw yn yr ymosodiad terfygol yn Afghanistan.

Roedd yn un o ddau Brydeiniwr a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad mewn bwyty yn Kabul. Fe gafodd 21 o bobol eu lladd i gyd.

“Mae fy meddyliau – a meddyliau’r blaid – gyda theulu a chyfeillion Del Singh,” meddai Ed Miliband.

“Fe fydd pobol ym mhobman yn ffieiddio at y weithred derfysgol fwriadol hon, oherwydd iddi dargedu pobol gyffredin o bob cwr o’r byd a oedd yn byw ac yn gweithio yn Kabul.

“Fe dreuliodd Del dros ddeng mlynedd yn gwneud gwaith datblygu hanfodol yn Afghanistan, Cosofo, Swdan, Sierra Leone a gwledydd eraill.

“Roedd wedi ymroi i weithio ac i gefnogi pobol ar draws y byd.”