Mae cyn-Gadeirydd y Blaid Geidwadol, yr Arglwydd McAlpine, wedi marw.
Fe ddaeth cyheoddiad swyddogol gan ei deulu fore heddiw fod y dyn a fu, hefyd, yn un o gynorthwywyr Margaret Thatcher wedi marw neithiwr.
Roedd yn 71 mlwydd oed.
“Gyda gofid mawr y mae teulu’r Arglwydd McAlpine yn cyhoeddi ei farwolaeth neithiwr, yn ei gartref yn yr Eidal,” meddai’r datganiad.