George Osborne
Mae George Osborne wedi dweud y gall Prydain fforddio i godi’r isafswm cyflog.

Fe awgrymodd y Canghellor ei fod yn barod i ystyried codi’r isafswm o £6.31 yr awr i £7.

Daeth ei sylwadau wrth i’r Adran Fusnes gyflwyno tystiolaeth i’r Comisiwn Cyflogau Isel. Mae disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi ei argymhellion ar gyfer codiad cyflog yn fuan.

Dywedodd George Osborne wrth y BBC: “Dwi’n credu y gall Prydain fforddio  codi’r isafswm cyflog. Ry’n n i wedi gweithio’n galed i gyrraedd y pwynt yma a dwi’n credu ei bod yn bryd i ni fwynhau ffrwyth yr holl waith caled.”