Syr Howard Davies - wedi ymddiswyddo
Mae Cyfarwyddwr un o brifysgolion enwoca’ gwledydd Prydain wedi ymddiswyddo oherwydd cysylltiadau gyda Libya.

Ac fe fydd ymchwiliad annibynnol i’r ffordd yr oedd yr LSE yn Llundain wedi derbyn symiau mawr o arian gan Lywodraeth y Cyrnol Gaddafi ac wedi rhoi gradd PhD i’w fab.

Fe ddywedodd y Cyfarwyddwr, Syr Howard Davies, bod y cysylltiadau wedi gwneud drwg i enw da’r brifysgol ac roedd yntau wedi gwneud “camgymeriad personol” trwy fynd i Libya i roi cyngor ar ddiwygio’r drefn ariannol.

Ar wahoddiad y Llywodraeth yr oedd yn gwneud y gwaith hwnnw ond roedd y Brifysgol ei hun wedi derbyn £1.5 miliwn a £2.2 miliwn gan wahanol gronfeydd o Libya – un i gefnogi gwaith ymchwil a’r llall am hyfforddi gweision sifil o’r wlad.

Er mai dim ond £300,000 o’r arian ymchwil sydd wedi ei dalu hyd yn hyn, roedd y cysylltiad yn gwneud drwg i enw’r Brifysgol, meddai Howard Davies.

Yr ymchwiliad

Yr Arglwydd Brif Ustus Woolf a fydd yn cynnal yr ymchwiliad a fydd hefyd yn ystyried sut y cafodd mab y Cyrnol Gaddafi, Saif, radd PhD gan yr LSE.

Mae amheuon ei fod wedi talu i rywun arall sgrifennu ei draethawd hir, gan gopïo cynnwys o lefydd eraill.