Yr Arglwydd Rennard
Mae aelod blaenllaw o’r Democratiaid Rhyddfrydol yr Arglwydd Rennard wedi gwrthod ymddiheuro i aelodau benywaidd o’r blaid oedd wedi ei gyhuddo o ymyrraeth rywiol, er gwaetha ymchwiliad gan gyfreithiwr sy’n dod i’r casgliad y dylai ymddiheuro.

Cafodd camau disgyblu yn erbyn cyn brif weithredwr y blaid eu gollwng ar ôl i fargyfreithiwr ddweud y byddai’n anodd profi’r honiadau.

Mae cyfreithiwr yr Arglwydd Rennard, yr Arglwydd Carlile wedi dweud nad oes rheswm iddo ymddiheuro ac mae wedi beirniadu Alistair Webster QC, a gafodd ei benodi gan y blaid i ymchwilio i’r honiadau, am argymell y dylai ymddiheuro.

Dywed arweinydd y blaid Nick Clegg na fydd lle amlwg i’r Arglwydd Rennard yn yr ymgyrch etholiadol yn 2015 ond mae wedi ail ymuno a grŵp y Dems Rhydd yn Nhŷ’r Arglwyddi a bydd yn parhau gyda’i ddyletswyddau fel aelod o’r pwyllgor polisi.

Mae’r penderfyniad i beidio parhau a chamau disgyblu yn ei erbyn wedi siomi rhai o’r merched oedd wedi cyhuddo’r Arglwydd Rennard gan ddweud ei fod yn benderfyniad “sydd ddim yn plesio unrhyw un ac yn codi mwy o gwestiynau nag atebion.”