Cyngor Dinas Birmingham
Mae awdurdod lleol mwya’r DU yn ystyried gwerthu tir ac eiddo i helpu i dalu bil o £1 biliwn ar gyfer setlo miloedd o achosion cyflog cyfartal.

Mae Cyngor Dinas Birmingham wedi cytuno ar daliadau i staff benywaidd, gan gynnwys gweithwyr gofal cartref a chogyddion ysgol, a oedd yn cael llai o gyflog na dynion am waith o werth cyfartal.

Mae rhai dynion hefyd wedi eu cynnwys yn y taliadau, tra bod ceisiadau yn parhau i gael eu cyflwyno.

NEC

Mae cryn ddyfalu wedi bod y gallai adeiladau adnabyddus  fel neuadd gynadledda’r  NEC gael ei werthu, ond dywedodd ffynonellau ar ran y cyngor nad oedd hynny’n gysylltiedig yn benodol â’r setliadau cyflog cyfartal.

Mae’r cyngor wedi benthyca arian yn barod  ond ni fydd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn caniatáu’r cyngor i fenthyg rhagor.

Meddai datganiad gan Gyngor Dinas Birmingham: “Mae’r cyngor wedi cael gwared ag asedau gwerth £76 miliwn yn ystod y ddwy flynedd diwethaf gan gynnwys tir, swyddfeydd a thai cyngor.

“Yn y dyfodol mae’n debygol y bydd darnau eraill o dir ac eiddo yn cael eu gwerthu, yn ogystal ag adolygiad o’n taliadau masnachol a manwerthu ac adolygiad o asedau cynhyrchu incwm fel meysydd parcio.”

Costau cyfreithiol

Meddai Chris Benson o Leigh Day, y cwmni cyfreithiol wnaeth gynrychioli mwy na 5,000 o ferched yn eu hymgyrch am gyflog cyfartal yn erbyn awdurdodau lleol: “Mae ‘na nifer o ffyrdd y gallai Birmingham fod wedi osgoi bod mewn cymaint o ddyled.

“Gallent fod wedi setlo gyda’r gweithwyr yn hytrach na thalu cyfreithwyr o Lundain i’w amddiffyn am ddwy flynedd. Neu fe allen nhw, wrth gwrs, fod wedi talu’r merched yn deg ar y pryd, fel cynghorau eraill.”