George Osborne
Fe fydd George Osborne yn rhybuddio heddiw bod methiant yr Undeb Ewropeaidd i ddiwygio yn arwain at argyfwng economaidd.

Mewn araith heddiw fe fydd y Canghellor yn pwysleisio bod y Ceidwadwyr yn benderfynol o newid telerau aelodaeth Prydain o’r UE gan fynnu na all y system bresennol barhau.

Bydd yn dweud bod gan Ewrop ddewis syml: diwygio neu ddirywio.

Mae disgwyl iddo hefyd ddweud y bydd y Ceidwadwyr yn cynnal refferendwm ynglŷn ag aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd os ydyn nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.