Christian Bale wedi ei enwebu am yr actor gorau yn American Hustle
Mae’r ddrama sydd wedi ei lleoli yn y gofod, ‘Gravity’, wedi ennill 11 o enwebiadau yng Ngwobrau Ffilmiau Bafta 2014.

Ymysg yr enwebiadau mae’r ffilm wedi ei gael yw’r actores orau i Sandra Bullock a chyfarwyddwr gorau i Alfonso Cuaron.

Mae’r ddrama am gaethwasiaeth yn America, ‘12 Years a Slave’, hefyd wedi ennill 10 o enwebiadau gan gynnwys y ffilm orau, y cyfarwyddwr gorau i Steve McQueen a’r actor gorau i Chiwetel Ejiofor.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Llundain ar 16 Chwefror.

Mae ‘Amercian Hustle’, hefyd wedi ennill 10 o enwebiadau gan gynnwys yr actor gorau i’r actor o Gymru Christian Bale.

Mae’r actores Judi Dench wedi gosod record newydd am ei 15fed enwebiad actio gan Bafta am ei rhan yn y ffilm ‘Philomena’.

Mae enwau mawr eraill sydd wedi cael eu henwebu yn cynnwys Bradley Cooper, Matt Damon a Michael Fassbender yng nghategori’r actor cefnogol gorau.

Ac mae’r gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd Alex Gibney wedi cael ei enwebu ddwywaith yng nghategori’r ffilm ddogfennol orau am ei ffilmiau am y beiciwr Lance Armstrong a gwefan WikiLeaks.

Mae’r holl enwebiadau i’w gweld ar wefan Bafta : http://awards.bafta.org/award/2014/film