Llun o wefan yr elusen Diabetes UK yn tynnu sylw at brawf i fesur y peryg o ddatblygu clefyd siwgr
Mae pobol ganol oed sy’n cael clefyd siwgr mewn peryg o fyw chwe blynedd yn llai na phobol eraill.
Yn ôl astudiaeth newydd mae cael y clefyd yn ganol oed yn cynyddu’r peryg o gael canser ac anhwylderau eraill
Mae’r wybodaeth yn dangos pa mor bwysig yw ceisio atal y clefyd, meddai’r gwyddonwyr o Brifysgol Caergrawnt a chorff o’r enw Emerging Risk Factors Collaboration.
Roedden nhw wedi dadansoddi gwybodaeth am fwy nag 820,000 o bobol gan eu dilyn tros gyfnod o ddeng mlynedd.
Roedd hi’n hysbys cyn hyn bod pobol sydd â chlefyd siwgr tua dwywaith mwy tebygol o gael trawiad ar y galon neu strôc ond mae’r arolwg yn dangos fod pobl â Chlefyd Siwgr Teip 2 hefyd yn wynebu risg uwch o farw o glefydau eraill.
“Mae’r darganfyddiadau hyn yn ehangu ac yn dwysau’r angen i atal a deall clefyd siwgr,” meddai’r Athro John Danesh, prif ymchwilydd yr astudiaeth o Brifysgol Caergrawnt.