jer
Jeremy Hunt
Fe fydd Rupert Murdoch yn cael rhwydd hynt i greu’r corff newyddion a darlledu mwya’ yng ngwledydd Prydain.

Fe gytunodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, y byddai cwmni Newscorp yn cael bwrw ymlaen i ddod yn berchnogion llwyr ar y cwmni darlledu BSkyB.

Fe fyddai hynny’n creu cwmni gydag incwm sy’n llawer mwy na’r BBC hyd yn oed, meddai golygydd busnes y BBC ei hun, Robert Peston.

O ganlyniad i’r penderfyniad y bore yma, fydd dim rhaid i gais Newscorp fynd gerbron y Comisiwn Cystadleuaeth – mae Rupert Murdoch eisoes yn berchen ar 39% o BSkyB yn ogystal â Newyddion Sky a phapurau fel y Times, y Sun a’r News of the World.

Troi’r fantol

Yr hyn a drodd y fantol o’i blaid oedd ei addewid i gael gwared ar ran helaeth o’i gyfrannau yn Newyddion Sky.

Fe fydd yn gostwng ei gyfran i 39.1% ac, yn ôl Jeremy Hunt, roedd hynny’n ddigon i dawelu’r ofnau am gystadleuaeth.

Fe gafodd y penderfyniad ei roi yn nwylo Jeremy Hunt – sydd wedi ffafrio’r syniad o’r dechrau – ar ôl i’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, gael ei ddal yn mynegi barn ar y pwnc.

Roedd wedi cael ei recordio gan newyddiadurwyr cudd yn dweud ei fod yn ennill y frwydr i atal Rupert Murdoch.