Mae tri o Wledydd Prydain ymhlith y rhai sydd wedi eu hanafu ar ôl ffrwydriad mewn gwesty ar ynys Tenerife.

Mae un ddynes 38 oed o Wlad Belg yn yr ysbyty yn dioddef o losgiadau difrifol i’w wyneb a’i phen ar ôl y ffrwydiad mewn gwesty yn Playa Paraiso yn nhref Adeje.

Mae merch wyth oed hefyd yn diodde o losgiadau i’w gwddf ac mae dyn a dwy ddynes 38 a 34 oed wedi derbyn triniaeth am fân anafiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn gwybod am y digwyddiad a’u bod eisoes wedi cysylltu efo’r awdurdodau lleol yno gan fod yn barod i gynnig cymorth os oes angen.