Mae’r bwlch rhwng incwm y tlawd a’r cyfoethog yng Ngwledydd Prydain yn cynyddu yn ôl adroddiad gan gwmni Aviva.

Mae Aviva wedi bod yn holi 2,000 o bobl a chyhoeddi adroddiadau ar enillion teuluoedd yn gyson ers 2011 ac yn ôl yr adroddiad eleni, mae’r bwlch yma wedi cynyddu 14%.

Tair blynedd yn ôl roedd £1,281 o wahaniaeth rhwng incwm cyfartalog y teuluoedd cyfoethocaf a’r rhai tlotaf mewn cymdeithas.

Bellach mae yna £1,459 o wahaniaeth.

Ar y llaw arall mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod enillion teuluoedd wedi cynyddu 12% yn ystod yr un cyfnod ac mae’r teulu cyffredin bellach yn ennill £1,937 y mis, sef cynnydd o 12% .

Llai o gynilion

Mae gan teuluoedd lawer llai o arian wrth gefn hefyd ac mae 30% o’r rhai holwyd yn dweud bod ganddyn nhw lai na £500 o gynilion erbyn diwedd y flwyddyn yma o’i gymharu â 14% ym mis Ionawr.

Mae’r nifer sydd gan lai na £2,000 o gynilion hefyd wedi codi o 28% i 40% eleni.

Yn ôl un o gyfarwyddwyr Aviva, costau byw sy’n poeni y rhan fwyaf o bobl y gaeaf yma.

“Mae’r ffaith bod enillion yn codi yn golygu y bydd nifer o deuluoedd yn cychwyn y flwyddyn newydd mewn gwell cyflwr ariannol na’r hyn y mae nhw wedi arfer ag o yn ystod y dair blynedd diwethaf’” meddai Louise Colley.

“Ond yn anffodus mae’r bwlch cynyddol rhwng y rhai sydd gan a’r rhai sydd gan ddim yn golygu na fydd pawb yn rhannu’r un sefyllfa hapus yma.”