Bathodyn heddlu yn Lloegr
Bydd rhaid i’r heddlu dderbyn toriadau cyflog neu wynebu colli miloedd o swyddi rheng flaen, yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref.

Mewn araith yn Llundain, fe fydd Theresa May’n dweud bod “amgylchiadau hynod” yn golygu bod rhaid i’r Llywodraeth newid pethau er mwyn cadw plismyn ar y stryd.

Fe ddaw araith Theresa May ymhlith y diwygio mwyaf radical ar wasanaeth yr heddlu ers 50 mlynedd – gyda thoriadau o 20% mewn cyllid.

Yn ôl papur y Daily Mail, fe fydd Theresa May yn dweud “nad yw  unrhyw Ysgrifennydd Cartref eisiau torri cyflogau heddlu” ond bod y diffyg ariannol wedi creu amgylchiadau anghyffredin.

“Ar draws y wlad, mae swyddogion heddlu a staff yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd yn dweud bod yn well ganddyn nhw i ni edrych ar amodau cyflog yn hytrach na cholli miloedd o swyddi,” meddai.

Mae disgwyl iddi gadarnhau hefyd y bydd y gwaharddiad ar streicio gan yr heddlu yn parhau.

Yn ôl y Gweinidog Heddlu, Nick Herbert, fe fydd “rheoli costau, torri biwrocratiaeth, gwneud arbedion a gwella effeithiolrwydd” yn golygu gallu “cynnal a gwella’r gwasanaeth i’r cyhoedd”.