Fe gyhoeddwyd brynhawn heddiw fod y darlledwr chwaraeon, David Coleman, wedi marw. Roedd yn 87 mlwydd oed.

Fe fu’r sylwebydd yn gweithio i’r BBC am bron i hanner canrif, gan weithio ar 11 o Gemau Olympaidd – yr olaf ohonyn nhw yn Sydney, Awstralia, yn 2000.

Fe fu hefyd yn gweithio ar chwe phencampwriaeth Cwpan y Byd Pel-droed.

Mewn datganiad, meddai teulu David Coleman: “Bu farw yn dilyn gwaeledd byr, a bu farw’n dawel gyda’i deulu wrth ei erchwyn.”