Pencadlys y Weinyddiaeth Amddiffyn (Tagishsimon CCA 3.0)
Fe fydd 11,000 o aelodau’r lluoedd arfog yn colli eu gwaith o fewn y pedair blynedd nesa’ a 6,000 o swyddi eraill yn mynd.

Fe gafodd y newyddion ei gadarnhau mewn cyfarfod rhwng y wasg ac un o uchel swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae Llafur wedi condemnio’r Llywodraeth yn Llundain am gyhoeddi’r diswyddiadau yng nghanol y rhyfel yn Afghanistan ac wrth i’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, drafod y posibilrwydd o ymyrraeth filwrol yn Libya.

Fe fydd  y toriadau’n tynnu nifer aelodau’r lluoedd arfog i lawr i 159,000 erbyn 2015, gyda’r toriadau llyma’ yn y Llynges.

  • O ran canran, fe fydd hi’n colli 14% o’i haelodau o gymharu â 12% yn y Llu Awyr a dim ond 7% yn y Fyddin.
  • O ran ffigurau syml, fe fydd y Fyddin yn colli 5,000 o filwyr, y Llynges yn colli 3,300 a’r Llu Awyr 2,700.

Fe fydd y cyhoeddiadau manwl cynta’n cael eu gwneud ym mis Medi ac fe allen nhw effeithio ar y lluoedd sy’n ymladd yn Afghanistan ar hyn o bryd.