Y ddamwain ar draffordd yr M5
Mae’r dyn oedd yn gyfrifol am arddangosfa tân gwyllt a gynhaliwyd ar yr un noson a damwain draffordd enfawr wedi ei gael yn ddieuog o dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Bu farw saith o bobl a chafodd 52 eu hanafu pan wnaeth 34 o geir wrthdaro ar ran o’r M5 yng Ngwlad yr Haf ym mis Tachwedd 2011.

Roedd yn un o’r damweiniau gwaethaf ar draffordd ym Mhrydain.  Roedd Anthony a Pamela Adams o Gasnewydd ymysg y rhai a fu farw yn y ddamwain.

Heddiw, fe wnaeth y barnwr yn Llys y Goron Bryste ddweud wrth y rheithgor y dylid cael  Geoffrey Counsell, 51, yn ddieuog o bob cyhuddiad o fethu sicrhau diogelwch pobl eraill yn groes i Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.

Cafodd Geoffrey Counsell ei gyhuddo’n wreiddiol o saith achos o ddynladdiad ond cafodd y cyhuddiadau hynny eu gollwng yn gynharach eleni.

Roedd yn rhedeg cwmni tan gwyllt a chafodd ei gyflogi gan Glwb Rygbi Taunton i drefnu arddangosfa gwerth £3,000 i dros 1,000 o bobl.

Clywodd Llys y Goron Bryste bod y mwg o’r tan gwyllt wedi ychwanegu at y niwl yn ystod ac ar ôl yr arddangosfa tân gwyllt yng Nghlwb Rygbi Taunton gan effeithio ar welededd y gyrwyr ar y draffordd.

Dywedodd y Barnwr Justice Simon ddoe nad oedd gan Geoffrey Counsell “unrhyw achos i’w ateb”.

Dywedodd y barnwr nad oedd digon o dystiolaeth i ddangos y dylai Geoffrey Counsell fod wedi rhagweld y byddai’r mwg o’r arddangosfa tan gwyllt wedi cymysgu gyda’r niwl i greu mwrlwch trwchus.