Boot - diwedd y daith (Steve Partridge CCA 2.0)
Fe fydd tua 75 o dystion yn dechrau rhoi tystiolaeth heddiw wrth i’r cwest ddechrau i farwolaeth y 12 o bobol a gafodd eu saethu gan Derrick Bird yn Cumbria ym mis Mehefin y llynedd.

Mae’r Crwner, David Roberts, wedi penderfynu y bydd y gwrandawiad hefyd yn cynnwys marwolaeth Derrick Bird hefyd – roedd wedi ei saethu ei hun ar ddiwedd taith waedlyd trwy rannau o’r sir yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Fe fydd llawer o’r sylw ar gyflwr meddwl y gyrrwr tacsi cyn iddo ddechrau’r lladdfa trwy saethu ei efail ei hun, David.

Roedd hefyd wedi lladd ei gyfreithiwr ac roedd y papurau newydd ar y pryd yn llawn o straeon am ffraeo teuluol tros arian.

Helfa

Am dair awr, fe fu’r heddlu’n ceisio’i ddal wrth iddo yrru trwy’r ardal – roedd wedi targedu rhai ac yna saethu ar hap.

Fe ddaeth yr helfa i ben ym mhentre’ bychan Boot yn Eskdale, lle’r oedd Derrick Bird wedi ei saethu ei hun.

Roedd y rhai a laddwyd yn amrywio o werthwr tai 23 oed i bensiynwr 71 oed ac roedd 11 o bobol hefyd wedi’u hanafu.

Mae disgwyl i’r cwest barhau am chwech wythnos.