Ed Miliband
Mae’r arweinydd Llafur wedi rhybuddio bod pobol ar gyflogau isel a chanol yn wynebu mwy o wasgfa na neb arall oherwydd yr argyfwng ariannol.

Fe fydd Ed Miliband yn lansio ymchwiliad 18 mis i’r tueddiadau, gyda’r awgrym bod y bobol yn y canol yn cael eu gadael ar ôl a’u bod yn wynebu argyfwng o ran eu safon byw.

Mae’r corff ymchwil, y Sefydliad Resolution, yn dweud na fydd cyflogau isel a chanolig yn ddim uwch yn 2015 nag yr oedden nhw yn 2003 a’u bod eisoes wedi dechrau colli tir cyn yr argyfwng.

“Fy mhryder i tros y rhai ar gyflogau isel a chanol yw y bydd mwy a mwy o deuluoedd yn wynebu argyfwng costau byw, a hwnnw’n eu gadael ar ôl hyd yn oed wrth i’r economi wella,” meddai Ed Miliband.

“Mae methiant y Llywodraeth yn ddeublyg: dydyn nhw ddim yn gweithredu i greu economi o fath gwahanol ac maen nhw’n taro teuluoedd sydd ar gyflogau isel a chanolig yn galetach na neb wrth dorri’r diffyg ariannol.”

Yn y gorffennol, meddai, roedd teuluoedd yn y canol wedi bod ar eu hennill wrth i’r economi gryfhau ond doedd hynny bellach ddim yn sicr o ddilyn.