Mae disgwyl i Fanc Brenhinol yr Alban wynebu beirniadaeth hallt heddiw yn dilyn honiadau eu bod wedi gorfodi busnesau bach i fynd i’r wal er mwyn gallu cael gafael ar eu hasedau am bris gostyngol.

Yn ôl  adroddiad mae ’na dystiolaeth bod isadran fusnes y banc wedi ymddwyn yn “gwbl ddiegwyddor” drwy orfodi cwmnïau bach i fethdalu.

Mae’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable wedi cyfeirio’r adroddiad at reoleiddwyr y Ddinas ariannol.