Alex Salmond, prif weinidog yr Alban
 Mae gŵr busnes amlwg sy’n ffyrnig ei wrthwynebiad i annibyniaeth i’r Alban wedi datgan ei gefnogaeth i Alex Salmond fel y dyn gorau i arwain y wlad.

Y miliwnydd Syr David Murray, perchennog clwb pêl-droed Rangers, yw un o gefnogwyr mwyaf llafar undod Prydeinig yn yr Alban.

Ond er ei fod yn credu y byddai annibyniaeth yn niweidio buddiannau busnes yr Alban, dywed wrth bapur newydd y Scotsman mai arweinydd yr SNP yw’r “dewis gorau” i arwain llywodraeth yr Alban yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

“Dw i’n awyddus i roi fy nghefnogaeth i’r dyn gorau ar gyfer y job,” meddai.

Mae ei sylwadau’n cyferbynnu’n llwyr â’r hyn yr oedd yn ei ddweud am Salmond a’r SNP cyn etholiad 2007, pryd yr oedd yn galw ar arweinyddion busnes a oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth i wneud safiad cyn ei bod hi’n “rhy hwyr”.

Yn ei ddatganiad heddiw, dywed:

“Dw i’n dal o blaid parhad yr Undeb [rhwng yr Alban a Lloegr]. Fodd bynnag, mae’r SNP o dan Alex Salmond wedi dangos y gallan nhw redeg llywodraeth abl ac mae Alex Salmond yn gwneud Prif Weinidog da. Dw i’n meddwl bod Alex yn haeddu ail dymor yn ei swydd.”

Croesawu

Dywed Alex Salmond ei fod “wrth ei fodd” yn derbyn cymeradwyaeth bersonol Syr David Murray. “Mae hyn yn fwy arwyddocaol fyth oherwydd dyw David Murray ddim yn berson gwleidyddiaeth plaid nac yn gefnogwr annibynniaeth – mae’n cefnogi record ddibynadwy o lwyddo o chyflawni dros y pedair blynedd ddiwethaf,” meddai.

Eto i gyd, fe all cefnogaeth David Murray godi cwestiynau pellach ymysg cenedlaetholwyr pybyr am y graddau y mae’r SNP yn awyddus i symud yn gyflym at annibyiaeth.

Mae swyddogion yr SNP yn mynnu nad oes unrhyw gytundeb wedi ei wneud rhwng Alex Salmond a David Murray ar ollwng y polisi o refferendwm ar annibyniaeth os ydyn nhw’n ennill yr etholiad ym mis Mai.

Ar hyn o bryd, mae’r polau piniwn yn rhoi Llafur yn gyffyrddus ar y blaen i’r SNP yn yr etholiad – 41% o gymharu â 32%.