Y cyn-brif weinidog Tony Blair
Roedd y cyn-brif Weinidog Tony Blair yn llygad ei le i estyn llaw o gyfeillgarwch at y Cyrnol Muammar Gaddafi, yn ôl yr Arglwydd Peter Mandelson.

Fe ddywedodd hefyd fod Tony Blair wedi siarad gyda Gaddafi yn ystod y ddeuddydd ddiwethaf, a bod rhai o fewn teulu agos yr unbennaeth, gan gynnwys ei fab Saif, yn gweld yr angen am ddemocratiaeth.

Wrth amddiffyn trafodaethau llywodraeth Tony Blair gyda Gaddafi, dywedodd Mandelson nad oedd dim byd o’i le mewn helpu cwmnïau Prydeinig ddelio â chyfundrefnau unbeniaethol.

“Mae Tony Blair wedi bod mewn cysylltiad â Gaddafi dros y ddeuddydd ddiwethaf a dw i’n ei gefnogi’n gryf am wneud hynny,” meddai.

“Yr hyn y bydd wedi ei ddweud fydd: ‘Mae gennych ddewis yn awr. Yr hyn y mae arna’ i eisiau i chi ei wneud yw camu’n ôl, rhoi’r gorau i’r meddylfryd o wrthsefyll i’r diwedd, a chaniatáu trosglwyddiad priodol a threfnus at ddemocratiaeth.’”

Bomiwr Lockerbie

Mynnodd Mandelson hefyd na chafodd bomiwr Lockerbie, Abdelbaset al-Megrahi, mo’i ryddhau’n gyfnewid am gytundeb â’r cwmni olew BP.

Dywedodd fod y llywodraeth Lafur yn ceisio ‘normaleiddio’r’ berthynas rhyngddi a Libya.

“Dw i’n gweld dim byd o’i le gyda chwmnïau fel BP neu Marks and Spencer neu HSBC yn chwarae eu rhan mewn buddsoddi yn economi Libya a’i hagor i weddill y byd, oherwydd pan ydych chi’n agor economi, mae hynny’n tueddu i arwain at agor gwleidyddiaeth hefyd.”

Daw sylwadau Mandelson ar ôl honiadau yn y Sunday Times hefyd fod Gordon Brown wedi lobïo’r Cyrnol Gaddafi i arwyddo cytundeb £285 miliwn gyda’r cwmni General Dynamics UK a oedd yn cynnwys cyflenwi offer radio i Frigâd 32 Libya, uned elît sy’n cael ei hamau o ladd ugeiniau o brotestwyr.