Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Mae llywodraeth Prydain wedi diddymu imiwnedd diplomyddol arweinydd Libya, Muammar Gaddafi, wrth i’r Ysgrifennydd Tramor William Hague alw arno i ymddiswyddo.

Daw sylwadau’r Ysgrifennydd Tramor ar ôl i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig bleidleisio’n unfrydol i gyfeirio gormes gwaedlyd Gaddafi ac y Llys Troseddol Rhyngwladol.

Dywedodd William Hague fod y llywodraeth wrthi’n ddyfal yn ceisio darganfod faint o Brydeinwyr sy’n dal ar ôl yn Libya wrth i’r cyrchoedd achub olaf gael eu trefnu.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr ar BBC1, meddai:

“Yr hyn sydd gennym yw gwlad sy’n syrthio i ryfel cartref, gyda golygfeydd erchyll o ladd protestwyr a llywodraeth yn ymladd rhyfel yn erbyn ei phobl ei hun, felly wrth gwrs mae’n bryd i Gaddafi fynd. Dyna yw’r gobaith gorau i Libya.

“Neithiwr fe arwyddais i ddatganiad yn diddymu ei imiwnedd diplomyddol ym Mhrydain a hefyd imiwnedd diplomyddol ei feibion a’i deulu.

“Felly mae’n glir iawn lle’r ydym ni’n sefyll ar ei statws fel pennaeth gwladwriaeth.”