Mae'r llinell ddu'n dangos llwybr rheilffordd arfaethedig HS2 o Lundain i ogledd Lloegr
Fe fydd y llywodraeth yn cychwyn cyfnod o ymgynghori yfory ar lwybr rheilffordd newydd gyflym rhwng Llundain a chanolbarth Lloegr.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Philip Hammond yn rhoi rhagor o fanylion am gynlluniau uchelgeisiol £30 biliwn y llywodraeth, sy’n dwyn yr enw HS2, mewn cyfarfod yn Birmingham.

Mae disgwyl y bydd yn dangos faint o gartrefi y bydd y rheilfordd newydd yn effeithio arnynt, ac yn dadlau’r achos economaidd ac amgylcheddol dros fynd ymlaen â’r cynlluniau.

Os byddan nhw’n cael eu cymeradwyo fe allai gwaith gychwyn ar y rheilffordd i Birmingham yn 2015 gyda’r dewis o’i hehangu ymhellach i Fanceinion a Leeds yn y dyfodol.