Mae llefarydd ariannol y Blaid Lafur wedi galw am ddadwneud y cynnydd mewn Treth ar Werth ar betrol.

Yn ôl Ed Balls, mae angen i’r Llywodraeth weithredu i lacio’r pwysau ar deuluoedd gydag incwm canolig sy’n wynebu “argyfwng” o ran eu safon byw.

Gyda phris olew crai’n codi’n gyflym, fe ddywedodd ei bod yn costio rhwng £65 a £75 bellach i lenwi tanc car teulu cyffredin a bod y cynnydd yn y dreth yn rhoi halen ar y briw.

Fe ddywedodd Ed Balls y dylai’r Canghellor, George Osborne, weithredu ar unwaith i newid y penderfyniad ar Dreth ar Werth.

“Fe fydd Osborne yn dweud nad yw’n gallu gwneud y math yma o benderfyniad y tu allan i’r Gyllideb,” meddai. “Ond yn ddiweddar fe gyhoeddodd dreth fanc newydd ar raglen radio Today.

“Os ydi o’n gallu rhoi cyllideb fach i’r banciau, ,mae o’n gallu rhoi cyllideb fach i yrwyr hefyd.”

Mae’r Trysorlys wedi dweud eu bod yn ystyried “pob ffordd” o geisio lleihau’r baich ar berchnogion ceir.