Amsterdam
Mae 44 o bobl, gan gynnwys 28 o Albanwyr, wedi cael eu harestio gan heddlu’r Iseldiroedd yn Amsterdam yn dilyn gwrthdaro ffyrnig cyn gêm rhwng Celtic ac Ajax yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Cafodd wyth o heddweision eu hanafu yn y gwrthdaro yng nghanol y ddinas cyn y gêm neithiwr.

Dywedodd yr heddlu fod cefnogwyr gyda photeli a ffyn wedi ymosod ar blismyn mewn lifrai cyffredin “allan o unlle”, gydag un heddwas yn cael ei daro’n anymwybodol yn ystod yr ymladd yn Sgwâr Dam.

Dywedodd yr heddlu fod y rhan fwyaf o’r rheiny a arestiwyd yn gefnogwyr Celtic.

Mae deunaw o’r 28 Albanwyr a gafodd eu harestio’n parhau yn y ddalfa ac fe allen nhw gael eu rhyddhau ar ôl talu dirwy neu wynebu ynadon fydd yn penderfynu ar unrhyw gosb pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Ar ddiwedd y prynhawn, ymosododd grŵp mawr o gefnogwyr Celtic ar heddweision mewn lifrai cyffredin.

“Cafodd wyth eu hanafu ac un ei daro’n anymwybodol. Roedd rhai ohonyn nhw wedi torri’u trwynau ac angen triniaeth i’w aeliau a’u gwefusau.

“Defnyddiwyd poteli a ffyn yn yr ymosodiad, ddaeth allan o unlle.”

Collodd Celtic y gêm 1-0, ac mae nhw bellach yn wynebu tasg anodd i geisio cyrraedd rowndiau nesaf y gystadleuaeth.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor eu bod yn ymwybodol o’r sefyllfa.

Ymosodiadau cynt

Cyn y gêm fe wnaeth grŵp o ddynion mewn masgiau ymosod ar tua hanner cant o gefnogwyr y tîm o’r Alban yng nghaffi’r Old Sailor yng nghanol y ddinas.

Bu trwbl yn y gêm rhwng y ddau dîm fis diwethaf yng Nglasgow ar ôl i gefnogwyr Ajax rwygo seddi a’u taflu nhw ar heddlu a chefnogwyr, mewn gêm ble enillodd Celtic 2-1.

Mae UEFA eisoes wedi agor achos disgyblu yn erbyn Ajax am y digwyddiad hwnnw, gyda’r achos i’w glywed ar Dachwedd 21.

Fe all Celtic hefyd ddisgwyl ymateb gan y corff sydd yn rheoli pêl-droed yn Ewrop hefyd dros y dyddiau nesaf.

Roedd disgwyl tua 12,000 o gefnogwyr Celtic yn Amsterdam ar gyfer y gêm er i Heddlu’r Alban rybuddio cefnogwyr i beidio a theithio yno heblaw fod ganddyn nhw docynnau i’r gêm.