Mae disgwyl cyhoeddiad heddiw y bydd mwy na 1,000 o swyddi yn cael eu colli yn rhai o iardiau llongau mwyaf y Deyrnas Unedig.

Mae undebau llafur yn paratoi am y cyhoeddiad, gan gynnwys penderfyniad i beidio ag adeiladu unrhyw longau rhyfel newydd yn yr iard longau Portsmouth.

Fe fydd BAE Systems yn datgelu faint o swyddi fydd yn mynd yn Portsmouth a dwy iard longau arall Govan a Scotstoun yn yr Alban yn ddiweddarach heddiw.

Ond mae’n debyg y bydd cyfleusterau atgyweirio a chynnal a chadw yn cael ei uwchraddio yn Portsmouth a fydd yn lleihau’r effaith ar swyddi .

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond wneud datganiad i Aelodau Seneddol ar y sefyllfa yn nes ymlaen heddiw.