Mae’r ymgais i ddifa moch daear yn Lloegr yn fethiant, yn ôl elusen anifeiliaid a’r Blaid Lafur.

Mae’r ffigurau diweddara’n dangos methiant i gyrraedd y targed difa yng Ngwlad yr Haf – er gwaetha’ cael tair wythnos ychwanegol i wneud hynny.

Ond mae’r Ysgrifennydd Amgylchedd yn San Steffan, Owen Patterson, yn dweud bod canlyniadau’r cynlluniau arbrofol yn ddigon da i warantu cael cynllun pedair blynedd i gael gwared ar y diciâu mewn gwartheg.

Y difa hyd yn hyn

  • Dim ond 65% o’r moch daear yng Ngwlad yr Haf – Somerset – sydd wwedi eu lladd – y targed oedd 70%.
  • Mae’r difa’n parhau yn Swydd Gaerloyw – Gloucestershire – lle mae’r saethwyr wedi cael wyth wythnos arall i gwrdd â’r targed.
  • Dim ond 30% oedd wedi eu lladd ar ôl y cyfnod cynta’.

‘Gwneud pethau’n waeth’

“Mae difa moch daear tros gyfnod mor hir a methu â chyrraedd y targedi angenrheidiol yn debyg o fod wedi gwaethygu’r sefyllfa a chostio miliynau o bunnoedd,” meddai Paul Wilkinson o elusen yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt.

Yn ôl Llafur roedd gwneud llanast o’r difa yn waeth na pheidio â chael difa o gwbl.