Mae yna bryderon y gallai cwmni BAE Systems gau un o’i iardiau cychod yn Glasgow. Fe ddaw hyn wedi i’r cwmni gyhoeddi fod pump craen ar y safle i gael eu dadgomisiynu.

Nawr, mae’r SNP wedi galw ar y cwmni i “ddweud y gwir” ynglyn a’i gynlluniau ar gyfer yr iard a’i 1,500 o weithwyr.

Y llynedd, fe gyhoeddodd BAE ei fod yn ystyried cau un o’i iardiau mawr, ac y gallai 1,000 o swyddi fod yn y fantol.

Mae dyfodol y tri phrif iard – un yn Portsmouth, dau yn Glasgow, un yn Govan ac un arall eto yn Scotstoun – wedi bod yn ansicr. Mae BAE wedi gwneud “adolygiad” o’i waith morwrol.